Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-01-12 : 16 Ionawr 2012

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiadau a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol

 

CLA64 - Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’i gwnaed ar:29 Tachwedd 2011

Fe’i gosodwyd ar:1 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar:11 Ionawr 2012

 

CLA65 - Rheoliadau Perygl Llifogydd (Diwygio) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:30 Tachwedd 2011

Fe’u gosodwyd ar:1 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar:22 Rhagfyr 2011

 

CLA67 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:4 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd ar:6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar:31 Rhagfyr 2011

 

CLA69 - Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:2 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd ar:6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar:31 Rhagfyr 2011

 

CLA70 - Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:6 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd ar: 8 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar:1 Ionawr 2012

 

CLA71 – Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:7 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd ar:8 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar:1 Ionawr 2012

 

CLA75 - Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:19 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd ar:20 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar: 16 Ionawr 2012

  

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

Dim

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol

 

CLA66 - Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:4 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd ar: 6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar: 27 Rhagfyr 2011

 

CLA68 - Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:2 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd ar: 6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2011

 

CLA72 – The Non-Commercial Movement of Pet Animals Order 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’i gwnaed ar:6 Rhagfyr 2011

Fe’i gosodwyd gerbron y Senedd ar:9 Rhagfyr 2011

Fe’i gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: 9 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2012

 

CLA73 - The Environmental Permitting (England and Wales) (Amendment) (No. 2) Regulations 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar: 6 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd gerbron y Senedd ar:9 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: 9 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2012

 

CLA74 – The Eels (England and Wales) (Amendment) Regulations 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed ar:12 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd gerbron y Senedd ar:13 Rhagfyr 2011

Fe’u gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: 13 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym ar: 3 Ionawr 2012

 

Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiadau am yr offerynnau statudol hyn o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Ceir copi ohonynt yn Atodiadau 1 i 5.

 

Busnes arall

 

Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol

 

Ystyriodd y Pwyllgor y briff cyfreithiol ar y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a phenderfynu craffu ymhellach ar y Bil. Er mwyn cyd-fynd â dyddiad cau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, bydd angen i’r Pwyllgor adrodd ar y Bil erbyn canol mis Mawrth fan bellaf. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i wahodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, i roi tystiolaeth ddydd Llun 23 Ionawr 2012.

 

Gohebiaeth y Pwyllgor

 

CLA49 - Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 17 Tachwedd 2011 ynghylch rhinweddau’r Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011.

 

Diwygiadau i’r Bil Lleoliaeth

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Prif Weinidog i lythyr y Cadeirydd at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau am y diwygiadau i’r Bil Lleoliaeth, dyddiedig 14 Tachwedd 2011.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

16 Ionawr 2012


Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-01-12)

 

CLA66

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn:    Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 drwy ddiweddaru, drwy ychwanegu Jersey, y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y DU wedi dod i gydgytundeb gofal iechyd â hwy. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cyflwyno esemptiadau rhag ffioedd am driniaeth GIG (ar gyfer y cyfnod rhwng 9 Gorffennaf 2012 a 12 Medi 2012) i aelodau o Deulu’r Gemau sy’n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn 2012.

 

Materion Technegol: Craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: Craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3(ii) (ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad)gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.

 

Efallai yr hoffai’r Aelodau nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2009 wedi hysbysu’r Pwyllgor bod yr Adran Iechyd wedi rhoi’r gorau i’r cytundeb dwyochrog ym mis Mawrth 2009 rhwng y DU ac Ynysoedd y Sianel. Rhoddwyd effaith i derfynu’r cytundeb gan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2011 – cyfeiria SLC353 ato.

 

Nid yw’n glir o’r Memorandwm Esboniadol pam bod cytundeb dwyochrog yn mynd i gael ei adfer â Jersey, ac nid yw’r Memorandwm Esboniadol chwaith yn nodi pam nad oes cytundeb dwyochrog tebyg yn mynd i gael ei adfer ag Ynysoedd eraill y Sianel. Nid yw’n glir chwaith ai Cymru’n unig sy’n adfer y cytundeb â Jersey. Byddai esboniad ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru yn adfer y cytundeb dwyochrog â Jersey nawr i’w groesawu.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

16 Ionawr 2012

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) ( Diwygio) (Cymru) 2011

 

Mewn ymateb i adroddiad eich Pwyllgor, CLA66, rwy’r rhoi rhagor o wybodaeth isod am y pwyntiau a godwyd.

 

Cytunodd Llywodraeth y DU ar gytundeb gofal iechyd cyfatebol gydag Ynys Jersey a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2011. Diddymwyd y ‘cytundeb’ cynharach yn 2009. O dan y cytundeb blaenorol, codwyd tâl ar y DU am gost trin ymwelwyr â Jersey o’r DU a chodwyd tâl ar Jersey gan y DU am gostau trin ymwelwyr â’r DU o Jersey. Amcangyfrifodd yr Adran Iechyd bod telerau’r cytundeb hwn wedi arwain at golled net i Weinyddiaethau’r DU o sawl miliwn o bunnoedd. Ni wnaeth Jersey gydweithredu o ran cyfnewid y data angenrheidiol ynghylch nifer y cleifion a chostau’r triniaethau, ac felly penderfynwyd diddymu’r cytundeb.

 

Fe wnaeth yr Adran Iechyd negodi cytundeb newydd gyda Jersey, lle na fyddai unrhyw arian yn cael ei gyfnewid. Mae hynny’n golygu bod Jersey bellach yn yr un sefyllfa â’r gwledydd a’r tiriogaethau eraill y mae gan y DU Gytundebau Gofal Iechyd cyfatebol â hwy. Fe ymgynghorwyd â’r gweinyddiaethau datganoledig cyn ymrwymo i’r cytundeb newydd, ac fe gefnogodd pob un ohonynt y cytundeb newydd. Mae Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd wedi gweithredu’r cytundeb cyfatebol newydd.

 

Mae’n debygol y bydd Cymru ar ei hennill yn ariannol o ganlyniad i’r cytundeb newydd hwn gan mai nifer fechan o ymwelwyr o Jersey y bu gofyn rhoi triniaeth frys ac angenrheidiol iddynt yng Nghymru, yn hanesyddol. Nid oes gan Jersey ffigurau ynghylch faint o ymwelwyr o Gymru yr oedd gofyn rhoi triniaeth frys ac angenrheidiol iddynt wrth iddynt ymweld â Jersey.

 

Diddymwyd y cytundeb cyfatebol rhwng y DU a Guernsey yn 2009. Mae’r sefyllfa mewn perthynas â Guernsey yn fwy cymhleth gan nad yw’r gofal iechyd sy’n dod o dan y cytundebau cyfatebol, hynny yw triniaeth y mae’n ofynnol ei rhoi ar unwaith gan gynnwys damweiniau ac achosion brys, yn cael ei chynnig am ddim i breswylwyr lleol. Pe bai Guernsey yn ymrwymo i gytundeb gofal iechyd cyfatebol gyda’r DU tebyg i’r un rhwng y DU a Jersey, byddai Guernsey mewn sefyllfa anodd lle byddai ymwelwyr o’r DU yn derbyn gofal iechyd am ddim, a phreswylwyr Guernsey yn gorfod talu amdano. Ar hyn o bryd, nid yw  Guernsey yn fodlon ymrwymo i gytundeb gofal iechyd cyfatebol gyda’r DU sy’n cynnwys darpariaeth na chaiff unrhyw arian ei gyfnewid rhwng y gweinyddiaethau.

 

Er nad yw’n un o Ynysoedd y Sianel, mae’n bosibl bod gan y Pwyllgor ddiddordeb yn sefyllfa Ynys Manaw. Roedd y cytundeb gwreiddiol rhwng y DU ac Ynys Manaw i fod i ddod i ben fis Mawrth 2010, ond cafodd ei ymestyn hyd fis Medi 2010. Gweithredwyd cytundeb newydd ar 1 Hydref 2010, felly mae yna gytundeb cyfatebol parhaus wedi bod gydag Ynys Manaw.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-01-12)

 

CLA68

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3100) drwy ychwanegu pum tanwydd newydd at y rhestr o danwyddau a nodwyd yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993 a thrwy ddiwygio manylebau un tanwydd arall ar y rhestr honno.

 

 

Materion Technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

(1)          Mae is-baragraff (c) o’r paragraff 36 newydd yn y testun Cymraeg yn cyfeirio at “frics glo heb eu marcio ar siâp clustogau”, tra bod y testun Saesneg yn cyfeirio at “cushion shaped briquettes” heb nodi eu bod heb eu marcio. Nid yw’n glir pa fersiwn sy’n gywir.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vii)- ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft] a [Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].

 

(2)      Mae Rheoliad 3 (Arbed) y testun Saesneg yn cyfeirio at baragraff 36 o’r Atodlen Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”); tra, er bod y fersiwn Gymraeg yn cyfeirio at baragraff 36, nid yw’n cyfeirio at yr Atodlen i Reoliadau 2008, ac felly mae’n aneglur yn y testun Cymraeg lle mae paragraff 36 yn ymddangos.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft] a [Rheol Sefydlog 21.2 (vi)- ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

16 Ionawr 2012

 

Dyma ymateb y Llywodraeth:

 

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

Ymateb i’r materion a godwyd gan Gynghorwyr Cyfreithiol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Pwynt 1


Fel y dywedwyd yn yr adroddiad drafft, mae gwahaniaeth rhwng testunau Cymraeg a Saesneg y paragraff 36 newydd a roddwyd yn lle’r hen un a hynny yn is-baragraff (c). Mae’r paragraff hwn wedi ei gynnwys yn rheoliad 2(dd) o’r testun Cymraeg ac yn y rheoliad cyfatebol o’r testun Saesneg, sef rheoliad 2(f).

 

Mae’r testun Cymraeg yn anghywir wrth ddweud bod y brics glo heb eu marcio ond mae’n mynd yn ei flaen wedyn i ddisgrifio’n gywir y marcio ar y brics glo.  Mae’r testun Cymraeg yn amwys, felly, ond mae’n cynnwys geiriau sy’n dangos bod marcio ar y brics glo.  Mae’r testun Saesneg yn gywir ac yn ddiamwys ac yn adlewyrchu’n gywir y diben a’r effaith arfaethedig fel y maent wedi eu nodi yn y Memorandwm Esboniadol.  O gymryd y disgrifiad o’r marcio yn y testun Cymraeg, a’i ystyried ar y cyd â’r testun Saesneg, nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch pa destun sy’n gywir: mae’n amlwg bod y gwall yn nhestun Cymraeg y paragraff 36(c) newydd a roddwyd yn lle’r hen un.  I gael gwared ar yr amwysedd, mae’n briodol, felly, i’r testun Cymraeg gael ei gywiro adeg ei gyhoeddi drwy ddileu’r geiriau “heb eu marcio”, a bydd hynny’n cael ei wneud.

 

Pwynt 2

 

Fel y dywedwyd yn yr adroddiad drafft, mae gwahaniaeth rhwng rheoliad 3 o’r testun Cymraeg a rheoliad 3 o’r testun Saesneg.  Serch hynny, er gwaethaf yr anghysondeb, mae effaith gyfreithiol y testun Cymraeg yn glir, ac mae’r un fath â’r testun Saesneg.  Y rheswm am hynny yw nad oes unrhyw baragraff 36 ym mhrif gorff y Rheoliadau sy’n cael eu diwygio; dim ond yn yr unig Atodlen i’r Rheoliadau hynny y mae i’w gael (a honno’n Atodlen y mae’r testun Saesneg yn cyfeirio ati yn glir).  Gan hynny, mae’n briodol i’r gwall gael ei gywiro adeg cyhoeddi’r Rheoliadau, a bydd hynny’n cael ei wneud.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 3

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-01-12)

 

CLA72

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: The Non-Commercial Movement of Pet Animals Order 2011

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi nifer o Benderfyniadau y Comisiwn ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â mesurau gwarchod mewn perthynas â feirws brech y mwnci, ffliw adar pathogenig iawn a symudiadau adar anwes sy’n teithio gyda’u perchnogion i ardal y Gymuned, diogelu rhag cyflwyno’r gynddaredd, clefyd Hendra, clefyd Nipah ac ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (yr Undeb Ewropeaidd) Rhif 1152/2011 sy’n atodi Rheoliad (y Comisiwn Ewropeaidd) Rhif 998/2003 mewn perthynas â mesurau iechyd ataliol er mwyn rheoli heintiad llyngyren ruban mewn cŵn.

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Ni wnaethpwyd The Non-Commercial Movement of Pet Animals Order 2011 yn ddwyieithog.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (ix) - nad yw wedi’i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

16 Ionawr 2012

 

Ymatebodd y Llywodraeth fel a ganlyn:

 

Gorchymyn Symud Anfasnachol Anifeiliaid Anwes 2011

 

Mae’r Gorchymyn cyfansawdd hwn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na’i wneud, yn ddwyieithog.

 

 


Atodiad 4

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-01-12)

 

CLA73

 

Teitl: The Environmental Permitting (England and Wales) (Amendment) (No.2) Regulations 2011

 

GweithdrefnNegyddol

 

Bydd y Rheoliadau drafft hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010 i gynnwys trosi Cyfarwyddeb 2009/126/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ar Gam II adfer anwedd petrol wrth lenwi cerbydau modur â thanwydd mewn gorsafoedd petrol.

 

Materion Technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

  1. Nid yw’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud yn ddwyieithog.

 

[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

16 Ionawr 2012

 

Dyma ymateb y Llywodraeth:

 

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

 

Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio rhai o'r darpariaethau yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 O.S. 2010/675 i drosi'r Gyfarwyddeb ar Gam II adfer anwedd petrol wrth ail-lenwi cerbydau modur mewn gorsafoedd petrol (Cyfarwyddeb 2009/126/EC). Mae gofynion Cam I o'r Gyfarwyddeb ar adfer anwedd petrol (Cyfarwyddeb 1994/63/EC ar reolaeth allyriadau cyfansoddyn organig anweddol o ganlyniad i storio petrol a'i ddosbarthu o derfynellau i orsafoedd petrol) eisoes wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010. 

Mae'r drefn Trwyddedu Amgylcheddol yn rhesymoli rhannau gweithdrefnol swp o ddeddfwriaeth sy'n eithriadol o dechnegol a chymhleth. Mae wedi symleiddio gweithrediad y system drwyddedu y mae diwydiant a rheoleiddwyr yn gweithio odani heb gyfaddawdu mewn unrhyw fodd safonau amgylcheddol neu safonau iechyd dynol. Canlyniad hyn yw symleiddio'r cymhlethdod yr oedd diwydiant a rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr yn ei wynebu o'r blaen.

 

Mae sicrhau'r newidiadau hyn drwy offerynnau cyfansawdd a wneir ynghyd â'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyson â'r nod o symleiddio y cyfeirir ato uchod. Mae'r offeryn cyfansawdd hefyd yn lleihau anghyfleustra a dryswch posibl i'r rheini y mae'r Rheoliadau'n effeithio arnynt, yn enwedig gan fod Asiantaeth yr Amgylchedd (sy'n rheoleiddiwr) yn gorff trawsffiniol. Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Prydain. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i'r Offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na chael ei wneud, yn ddwyieithog.

 

 


Atodiad 5

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-01-12)

 

CLA74

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: The Eels (England and Wales) (Amendment) Regulations 2011 (Saesneg yn unig)

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 6 a 7 o The Eels (England and Wales) Regulations 2009 (‘y prif Reoliadau’) (Saesneg yn unig), sy’n rhoi ar waith Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1100/2007 sy’n llunio mesurau ar gyfer adfer niferoedd y llysywen Ewropeaidd.

Mae’r gwelliannau’n cywiro gwallau yn y prif Reoliadau a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol wrth graffu ar y Rheoliadau hynny. Ar y pryd, nid oedd offerynnau statudol a oedd yn destun gweithdrefn yn San Steffan yn cael eu craffu arnynt gan bwyllgor cyfatebol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

(1)          Yn Saesneg yn unig y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, gan eu bod yn rheoliadau cyfun ar gyfer Cymru a Lloegr sy’n destun y weithdrefn negyddol yn San Steffan.

[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nid yw’r rheoliadau wedi’u gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg]

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol

Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

16 Ionawr 2012